Mae heddlu yn Dubai wedi arestio grwp o hacwyr cyfrifiadurol sydd wedi bod yn targedu, yn honedig, bump o swyddogion y Ty Gwyn.

Mae papur newydd Al Bayan yn yr Emiradau Arabaidd Unedig yn adrodd fel y bu’r hacwyr yn defnyddio sustem ebostio blacmelio i gael eu dwylo ar wybodaeth gyfrinachol.

Mae Al Bayan yn dyfynnu aelod o’r heddlu gan ddweud mai “giang o Affrica” oedd wedi torri i mewn i gyfrifon ebost yr uchel swyddogion

Fe gafodd y criw eu dal mewn fflat yng nghanol Ajman, lle cafodd tri dyn eu harestio.