Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud bod y wlad yn barod i weithredu yn erbyn Gogledd Corea heb gymorth China.

Yn ôl Donald Trump, mae gan China “ddylanwad mawr dros Ogledd Corea” ond gall yr Unol Daleithiau ddelio â’r wlad heb ei chymorth.

Daw’r sylwadau ychydig ddyddiau cyn y bydd Arlywydd China, Xi Jinping, yn ymuno â Donald Trump yn ne Fflorida i drafod llu o faterion, gan gynnwys masnach a sefyllfa wleidyddol Môr De China.

Mae China yn cynnig cymorth diplomyddol ac economaidd i Ogledd Corea, ond mae’r wlad yn mynnu nad oes ganddyn nhw ddylanwad dros Lywodraeth Kim Jong Un.

Nid yw Donald Trump wedi amlinellu sut yn union byddai’n mynd ati i ymdrin â Gogledd Corea.

Hyd yma mae penderfyniadau’r Cenhedloedd Unedig wedi methu a rhwystro cynllun niwclear Gogledd Corea, a llynedd mi wnaeth y wlad gynnal dau arbrawf niwclear a deuddeg arbrawf â thaflegrau balistig.