Bob Dylan (Llun: PA)
Mae Bob Dylan, y cerddor cyntaf i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, wedi derbyn ei wobr mewn seremoni arbennig yn Sweden.

Cafodd ei gyhoeddi fel enillydd y wobr chwe mis yn ôl, ac fe dderbyniodd ei wobr yn ystod taith i Stockholm, lle bydd yn perfformio heno.

Derbyniodd y wobr mewn gwesty o flaen torf fechan o bobol, gan gynnwys aelodau Academi Sweden ac aelodau o’i staff.

Dywedodd Bob Dylan ym mis Hydref ei fod e’n “syfrdan” ar ôl ennill y wobr, ac fe dderbyniodd am “greu mynegiant barddonol newydd o fewn y traddodiad gwych o ganu Americanaidd.”