Mike Flynn - eisiau dweud ei stori (llun parth cyhoeddus)
Mae un o gyn-brif gyfeillion gwleidyddol Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn fodlon rhoi tystiolaeth ffurfiol am berthynas Donald Trump a Rwsia.

Ond mae’r Cadfridog Mike Flynn, a gafodd y sac o un o brif swyddi’r Llywodraeth yn sgil y berthynas honno, wedi gofyn am sicrwydd na fydd yn cael ei erlyn.

“Yn bendant, mae gan y Cadfridog Flynn stori i’w dweud ac mae wirioneddol eisiau ei dweud hi, pe bai’r amgylchiadau’n caniatáu,” meddai ei gyfreithiwr.

Fe gollodd Mike Flynn swydd y Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol ar ôl iddo gael ei gyhuddo o beidio â dweud y gwir am gysylltiadau yr oedd wedi eu cael gyda Llysgennad Rwsia yn yr Unol Daleithiau – cyn i Donald Trump ddod i’r Tŷ Gwyn.

Ymchwiliadau

Mae pwyllgorau gwybodaeth gudd yn Senedd a Chyngres yr Unol Daleithiau’n cynnal ymchwiliadau i’r berthynas rhwng yr Arlywydd a Rwsia – fe fydden nhw’n awyddus i wybod faint yr oedd Donald Trump ei hun yn ei wybod ac fe allai Mike Flynn ddatgelu hynny.

Mae yna dri ymchwiliad i gyd i honiadau fod Rwsia wedi ymyrryd yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ac mae helynt pellach wedi codi wrth i’r Tŷ Gwyn ddangos dogfennau cyfrinachol i gadeirydd un o’r ddau bwyllgor.

Yr amheuaeth yw eu bod nhw’n gwneud hynny er mwyn cymylu’r gwir.