Peth o olion yr ymladd ym Mosul (Mstyslav Chernov CCA 4.0)
Mae’n rhaid rhoi “blaenoriaeth lwyr” i warchod pobol gyffredin wrth ymladd yn Irac, yn ôl Ysgrifennydd-Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Fe laniodd Antonio Guterres yn y wlad heddiw ynghanol honiadau fod cannoedd o bobol ddiniwed wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau o’r awyr gan yr Unol Daleithiau a’i chynghreiriaid.
Fe ddaeth hynny ar ben argyfwng dyngarol ehangach ar ôl misoedd o ymladd yn ninas Mosul, rhwng y cynghreiriaid a’r mudiad milwrol eithafol IS.
Ffoaduriaid
Yn yr un wythnos ag y cafodd pedwar o bobol ddiniwed eu lladd mewn ymosodiad yn Llundain, fe ddaeth newyddion fod ymhell tros gant wedi eu lladd mewn dau ymosodiad ym Mosul.
Ers dechrau’r ymladd yn y ddinas ym mis Hydref, mae mwy na 350,000 wedi gadael
Fe fydd Antonio Guterres yn cwrdd ag Arlywydd, Prif Weinidog a Llefarydd Senedd Irac cyn mynd i ymweld â gwersylloedd ffoaduriaid.