David M Friedman (llun parth cyhoeddus)
O fewn oriau iddi ddechrau ar ei swydd mae arwyddion y bydd llysgennad newydd yr Unol Daleithiau yn Israel yn ffyrnigo’r gwrthdaro gyda’r Palestiniaid.

Mae eu llefarwyr nhw eisoes wedi gwrthwynebu penodiad David Friedman, sydd newydd gael ei gadarnhau’n swyddogol mewn seremoni yn Washington.

Mae David Friedman, sy’n fab i Rabbi uniongred, wedi cymryd lein galed ar ddau o’r pynciau sy’n poeni fwya’ ar y  Palestiniaid.

Mae o blaid adeiladu rhagor o drefedigaethau Israelaidd ar dir y Palestiniaid a symud llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau o’r brifddinas Tel Aviv i Jeriwsalem, sy’n cael ei hystyried yn ddinas sanctaidd i’r Mwslemiaid hefyd.

‘I’r dde’

Yn ôl papur newydd y Palestine Chronicle, mae David Friedman ar fwrdd un o’r trefedigaethau, sy’n anghyfreithlon yng ngolwg y Cenhedloedd Unedig.

Maen nhw hefyd yn honni ei fod ymhell “i’r dde” o Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu.

Wrth weinyddu’r seremoni i gymryd llw’r llysgennad newydd, fe ddywedodd Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence, mai dyma un o’r “arwyddion cliriaf” o ymrwymiad yr Arlywydd Donald Trump  i’r Iddewon a gwladwriaeth Israel.