Y Pab Ffransis Llun: PA
Mae’r Pab Ffransis wedi dweud bod angen “gweithredu ar frys” i ddiogelu dinasyddion yn Irac yn sgil cynnydd diweddar yn nifer y bobol sy’n cael eu lladd.

“Dw i’n apelio ar bawb i ymrwymo i wneud pob ymdrech posib i ddiogelu dinasyddion,” apeliodd ar ddiwedd ei dderbyniad Pabyddol.

Dywedodd y Pab Ffransis ei fod yn pryderu yn bennaf am ddinasyddion yn Mosul sydd yn methu ffoi rhag yr ymladd rhwng lluoedd y Llywodraeth ac ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn ôl ystadegau swyddfa hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig mae o leiaf 300 o bobol wedi eu lladd ers canol Chwefror ym Mosul – cafodd 140 ohonyn nhw wedi eu lladd yn ystod un ymosodiad.

Mae Amnest Rhyngwladol wedi cyhuddo’r glymblaid dan arweiniad yr Unol Daleithiau o fethu a chymryd camau digonol i atal marwolaethau dinasyddion, wrth iddyn nhw gynorthwyo lluoedd Irac i adennill rheolaeth o’r ddinas.