Penelope a Francois Fillon Llun: PA
Mae gwraig ymgeisydd arlywyddol Ffrainc yn wynebu cyhuddiadau cychwynnol dros honiadau i Francois Fillon roi swyddi iddi hi a’u plant, ond nad iddynt gyflawni’r swyddi hynny.

Mae Penelope Fillon, sy’n wreiddiol o’r Fenni, yn wynebu ymchwiliad gan farnwyr ym Mharis heddiw.

Eisoes, mae Francois Fillon wedi’i gyhuddo o gamddefnyddio arian cyhoeddus ymhlith cyhuddiadau eraill.

Mae’r achos yn debygol o effeithio’n drwm arno yn ystod dau gylch yr etholiad arlywyddol ar Ebrill 23 a Mai 7.

Mae’r ddau’n gwadu gwneud unrhyw beth o’i le, ac mae Francois Fillon wedi galw’r ymchwiliad yn ymdrech i danseilio ei ymgais am arlywyddiaeth.