Llun lloeren o seiclon (Llun: PA)
Mae seiclon pwerus categori 4 wedi taro arfordir gogledd ddwyrain Awstralia gyda choed yn disgyn a miloedd yn colli eu cyflenwad trydan.

Mae Seiclon ‘Debbie’ wedi achosi gwyntoedd o hyd at 160mya gyda chanol y storm wedi taro Traeth Airlie yn Queensland.

Mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai’r storm daro’r rhanbarth am sawl awr cyn gwanhau wrth symud i mewn dros y tir, gyda chymunedau ar draws 200 milltir o’r arfordir yn debygol o gael eu heffeithio.

Fe wnaeth miloedd o bobol adael eu cartrefi ar yr arfordir ddydd Llun gydag ysgolion ynghau a mwy na 20,000 o dai heb drydan.

Mae’r storm yn fygythiad hefyd i gnydau a thir amaethyddol yr ardal sy’n arbenigo mewn tyfu llysiau a ffrwythau gan gynnwys tomatos, mango a phupurau.

“Mae’r amodau wedi gwaethygu’n sydyn,” meddai Prif Weinidog y wlad, Malcolm Turnbull.

“Byddwch yn barod i gysgodi tan ddydd Mercher,” meddai.