Mae arweinydd gwrthblaid Rwsia, Alexei Navalny wedi cael ei arestio yn dilyn protest heb awdurdod ym Mosgo.

Roedd miloedd o bobol yn Sgwâr Pushkin ar gyfer y digwyddiad.

Cafodd Alexei Navalny ei arestio wrth iddo gerdded o orsaf danddaearol i’r brotest.

Roedd e a’i Sefydliad tros Frwydro yn erbyn Llygredd wedi bod yn galw am gynnal protestiadau yn erbyn y llywodraeth.

Roedden nhw’n honni bod y Prif Weinidog Dmitry Medvedev yn mwynhau bywyd moethus a bod ganddo blastai, cychod a gwinllannoedd.