Mae lle i gredu bod Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – wedi dechrau gadael eu canolfan yn Raqqa yn sgil pryderon y gallai argae ddymchwel.

Yn ôl ymgyrchwyr yn y ddinas, mae trigolion yn gadael yn eu heidiau, wrth i wrthryfelwyr rybuddio pobol nad oes modd defnyddio argae Taqba ar afon Euphrates am y tro.

Mae’r argae wedi’i wanhau yn dilyn ymosodiadau o’r awyr gan gynghreiriaid sydd wedi’u harwain gan yr Unol Daleithiau.

Ardaloedd preswyl

Yn y cyfamser, mae ymgyrchwyr wedi galw ar y cynghreiriaid i roi’r gorau i fomio o’r awyr mewn ardaloedd lle mae nifer sylweddol o bobol yn byw yn Raqqa.

Mae Cynghrair Genedlaethol Syria (SNC) yn “gynyddol bryderus” am nifer y bobol ddiniwed sy’n cael eu lladd wrth i’r ymdrechion yn erbyn eithafwyr Islamaidd barhau.

Mae’r SNC o’r farn mai cynghreiriaid oedd yn gyfrifol am gyrch o’r awyr a laddodd o leiaf 30 o bobol gyffredin mewn ysgol ar Fawrth 21.