Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan (Llun: Randam CCA2.0)
Gallai Twrci ystyried cynnal refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Gwnaeth ei sylwadau mewn fforwm Twrci-DU yn Antalya ddydd Sadwrn.

Mae cynlluniau ar y gweill eisoes i gynnal refferendwm ar Ebrill 16 mewn ymgais i ymestyn grym yr arlywydd yn y wlad.

Ond awgrymodd y gallai refferendwm tebyg gael ei gynnal ar ôl hynny, gan ei gymharu â’r refferendwm yng ngwledydd Prydain.

Yn ystod y digwyddiad brynhawn ddoe, roedd Recep Tayyip Erdogan yn feirniadol o unrhyw un sy’n amau’r posibilrwydd y byddai Twrci yn cael caniatâd i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.