Mae arweinwyr holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd heblaw Prydain wedi arwyddo cytundeb sy’n datgan hawl y gwledydd i symud at undod i raddau gwahanol i’w gilydd.

Roedd arweinwyr y 27 gwlad yn nodi 60 mlwyddiant yr Undeb mewn uwch-gynhadledd anffurfiol yn Rhufain.

Galwodd llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, am undod cynaliadwy ymysg y gwledydd ar ôl i Theresa May weithredu Erthygl 50 i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Bydd Ewrop fel endid gwleidyddol naill ai’n unedig, neu ni fydd yn bod o gwbl,” meddai wrth annerch yr uwch-gynhadledd yn y neuadd ar fryn y Capitoline lle cafodd Cytundeb Rhufain ei arwyddo ar 25 Mawrth 1957.

“Dim ond Ewrop unedig all fod yn Ewrop sofran mewn perthynas â gweddill y byd.

“Dim ond Ewrop sofran sy’n gwarantu annibyniaeth i’w dinasyddion, a gwarantu rhyddid i’w dinasyddion.”

Wrth gydnabod na fydd undod ar bob pwnc, dywed y datganiad a gafodd ei arwyddo gan arweinwyr y 27 gwlad:

“Byddwn yn gweithredu gyda’n gilydd, mewn gwahanol gamau ac i wahanol raddau lle bo angen, gan symud yn yr un cyfeiriad.”