Milwyr IS ym Mosul (Voice of America - parth cyhoeddus)
Mae’r cynghreiriaid Gorllewinol sy’n ymladd yn Irac yn ymchwilio i’r posibilrwydd eu bod wedi lladd mwy na 100 o bobol gyffredin mewn dau ymosodiad o’r awyr.
Fe gadarnhaodd y gynghrair sy’n ymladd dan arweiniad Unol Daleithiau America yn erbyn y mudiad milwrol IS yn ninas Mosul eu bod yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i’r honiadau.
Roedd y ddau ymosodiad, ar 13 ac 17 Mawrth, wedi taro clwstwr o dai mewn rhan o Mosul yn ôl pobol leol ac mae newyddiadurwyr cwmni Associated Press yn dweud eu bod wedi gweld o leia’ 50 o gyrff yn cael eu cario oddi yno.
Dim ond heddiw y mae criw o beirianwyr achub Iracaidd wedi llwyddo i ddechrau gweithio ar y safle, oherwydd y gwrthdaro ffyrnig sy’n digwydd yn yr ardal.
‘Pob gofal’
Fe ddywedodd y Cenhedloedd Unedig fod mwy na 1,000 o bobol gyffredin wedi cael triniaeth am anafiadau yn Mosul yn ystod y mis diwetha’ ond, yn ôl meddygon, arfau IS oedd wedi achosi’r rhan fwya’ o’r niwed.
Mae’r Unol Daleithiau’n cydnabod bod ymosodiadau awyr y cynghreiriaid wedi lladd 220 o bobol gyffredin ers dechrau’r cyrchoedd yn 2017, ond mae’r corff craffu annibynnol, Airwars, yn honni bod y ffigwr wedi croesi 2,700.
Fe ddywedodd y datganiad heddiw eu bod yn “cymryd pob gofal” i osgoi lladd pobol gyffredin.
Fe ddaw’r newyddion wrth i bobol gwledydd Prydain barhau i alaru am bedwar o bobol gyffredin a gafodd eu lladd gan ymosodiad brawychol yn Llundain.