Llun o fideo cyhoeddusrwydd gan proactiva open arms
Mae pryder fod cannoedd o ffoaduriaid ac ymfudwyr wedi marw yn y Môr Canoldir.

Fe ddaeth swyddogion elusen o hyd i bum corff a dau gwch oedd wedi troi drosodd yn y môr ger arfordir Libya a’r ofn yw fod llawer rhagor o bobol wedi boddi.

Mae’r pump corff bellach ar un o longau’r mudiad Proactiva Open Arms o Gatalunya ac ar ei ffordd i borthladd yn yr Eidal.

Mae nifer o elusennau a chyrff dyngarol bellach yn chwilio am ragor o gyrff.

Dywedodd asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig eu bod wedi eu “dychryn” gan yr adroddiadau gan ddweud bod llongau sy’n cario ffoaduriaid fel arfer yn llawn dop o bobol.