Mosgow
Mae heddlu yn ninas Mosgow wedi rhybuddio pobol sy’n bwriadu cymryd rhan mewn protest yn erbyn y Kremlin sy’n cael ei threfnu gan arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny.

“Fe allech chi’n bersonol fod mewn peryg,” meddai’r datganiad sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan heddlu’r ddinas. “Mae’r digwyddiad yn un anghyfreithlon.”

Mae mwy na 4,000 o bobol wedi nodi ar wefan gymdeithasol Facebook eu bod yn bwriadu mynd ar y brotest ddydd Sul, a hynny er mwyn gwrthwynebu llygredd ar lefel ucha’r llywodraeth.

Mae Alexei Navalny, sy’n ymgyrchu i sefyll yn etholiad arlywyddol Rwsia yn 2018, wedi dweud mewn blog fod “y gyfraith ar ein hochr ni”.