Donald Trump - eisiau dileu 'Obamacare'
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi rhoi’r gorau i drafodaethau ac wedi mynnu bod pleidlais yn cael ei chynnal ar fesur gofal iechyd newydd.

Cafodd pleidlais ynglŷn â’r mesur ei rhwystro ddydd Iau (Mawrth 23) oherwydd gwrthwynebiad gan ambell aelod o’r blaid Weriniaethol. Wedi hyn, fe fynnodd tîm yr Arlywydd bod y bleidlais ar y mesur yn cael ei chynnal heddiw, boed hi’n cael ei phasio neu beidio.

Mae gwleidyddion ceidwadol wedi mynnu nad oes gan y mesur ddigon o gefnogaeth yn y Gyngres ond mae’n ymddangos bod Donald Trump am gymryd y risg.

Deddf iechyd newydd

Pwrpas y Ddeddf Gofal Iechyd Americanaidd yw gwaredu sawl agwedd o ddeddf ‘Obamacare’ y cyn-Arlywydd, Barack Obama.

Byddai’r mesur yn cwtogi’r rhaglen Lywodraethol ‘Medicaid’ i bobol ag incwm isel ac mi fydd yn galluogi cwmnïoedd yswiriant i godi prisiau ar gyfer Americanwyr hŷn.