Mae mam feichiog o wledydd Prydain wedi ymddangos gerbron llys yn Rwanda, wedi iddi gael ei harestio a’i chyhuddo y mis diwetha’ o deyrn-fradwriaeth.
Fydd y cyhuddiadau yn erbyn Violette Uwamahoro ddim yn cael eu cyhoeddi nes bod ymchwiliadau’r heddlu yn gyflawn, meddai llefarydd ar ran y system gyfreithiol yn y wlad.
Ond, yn ôl grwp hawliau dynol Amnest Rhyngwladol mae’r awdurdodau yn ymchwilio i gyhuddiadau fod y wraig a gafodd ei geni yn Rwanda, wedi datgelu cyfrinachau gwladol, wedi ffurfio grwp o bobol arfog, ac wedi gweithredu yn erbyn llywodraeth neu arlywydd y wlad.
Mae Violette Uwamahoro yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.
Mae disgwyl iddi ymddangos gerbron llys ddydd Llun, Mawrth 27.
Her Rwandan-born husband is a political activist with an opposition group in exile.
Fe ddiflannodd Violette Uwamahoro, ym mhrifddinas Rwanda, Kigali, ar Chwefror 14 eleni, ar ôl dychwelyd i’r wlad i fynd i gynhebrwng ei thad. Mae ei gwr yn ymgyrchydd gwleidyddol.