Turin
Mae llys yn yr Eidal wedi gadael i ddyn gerdded yn rhydd o achos o drais yn erbyn menyw – am y rheswm na wnaeth y ddynes sgrechian yn ystod y digwyddiad honedig.

Ond mae gweinidog cyfiawnder y wlad, Andrea Orlando, wedi gofyn i ymchwilwyr edrych eto ar yr achos.

Mewn achos yn un o lysoedd Turin y mis diwetha’, y ddedfryd oedd nad oedd hi’n ddigon bod y wraig wedi gweiddi “Digon!” ar y dyn oedd ar brawf am ei threisio – roedd hynny, meddai’r llys, yn ymateb “rhy wan” i brofi ei bod yn diodde’ ymosodiad rhyw.

Yn ôl y llys, doedd hi ddim wedi sgrechian na gweiddi am help.

Mae’r ddedfryd wedi ennyn ymateb mawr gan grwpiau hawliau merched.