Mae bachgen yn ei arddegau o Sydney wedi cyfadde’ cynllwynio ymosodiad terfysgol ar seremoni yn Awstralia i gofio milwyr yn glanio yn Gallipoli.
Roedd y bachgen yn 16 oed pan gafodd ei arestio a’i gyhuddo o gynllwynio ymosodiad brawychol ar Ebrill 24 y llynedd, y diwrnod cyn i gannoedd o filoedd o bobol ddod ynghyd mewn seremonïau ledled y wlad i nodi Diwrnod Anzac.
Mae’r gwyliau blynyddol yn nodi’r glaniadau ar Ebrill 25, 1915, yn Nhwrci – y frwydr fawr gynta’ i filwyr Awstralia a Seland Newydd gymryd rhan ynddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe blediodd y bachgen, a ymddangosodd gerbron Llys Plant Parramatta yng ngorllewin Sydney, yn euog i gynllunio gweithred frawychol trwy geisio cael gafael ar wn neu lawlyfr gwneud bomiau.
Fe fydd yn aros yn y ddalfa nes y bydd yr achos yn dychwelyd i’r llys ar Ebrill 21 eleni. Mae’n wynebu oes o garchar, pe bai’r llys yn ei gael yn euog o’r drosedd.