Mae teuluoedd y bobol gafodd eu lladd yn yr ymosodiad terfysgol yn Efrog Newydd ar 9/11, 2001, yn gobeithio mynd â Sawdi Arabia i gyfraith dros y digwyddiad.

Am flynyddoedd, mae teuluoedd a chwmnïau yswiriant wedi ceisio, yn aflwyddiannud, i siwio Sawdi Arabia neu fusnesau neu sefydliadau yn y wlad honno, am y digwyddiad a welodd ddwy awyren yn cael eu hedfan i mewn i dyrau Canolfan Fasnach y Byd.

Nawr, mae Cynghres yr Unol Daleithiau wedi rhoi caniatad iddyn nhw fwrw ymlaen gydag ymdrech newydd.

Yn y flwyddyn nesa’, fe fydd llysoedd ffederal Manhattan yn dyfarnu ar achodion miloedd o deuluoedd a gollodd anwyliaid, ynghyd ag aelodau o’r gwasanaethau brys a gafodd eu hanafu yn 2001.