Denis Voronenkov wedi'i saethu yn Kiev (Llun: PA)
Mae’r cyn-wleidydd o Rwsia, Denis Voronenkov, wedi’i saethu’n farw yn ninas Kiev, Yr Wcrain.

Yn ôl heddlu’r wlad, fe gafodd ei saethu gan ddyn arfog dienw wrth ymyl y fynedfa i westy crand yn y brifddinas.

Roedd Denis Voronenkov, 45, yn gyn-aelod o’r garfan gomiwnyddol yn senedd Rwsia, ac roedd wedi symud i fyw i’r Wcrain yr hydref diwetha’ ac wedi dod yn ddinesydd.

Fe adawodd Denis Voronenkov gyda’i wraig, y gantores Maria Maksakova. Roedd hithau hefyd yn aelod seneddol. Roedd yn honni bod yn rhaid iddo adael oherwydd ei fod yn cael ei erlid gan asiantaethau diogelwch.