Helmand
Mae’r Taliban wedi cipio ardal allweddol yn nhalaith Helmand, Afghanistan.

Fe ddaeth cwymp Sangin – a oedd yn cael ei hystyried ar un adeg yr ardal berycla’ yn y wlad ar gyfer milwyr Prydain ac America – wrth i wrthryfelwyr dreulio blwyddyn yn ymladd er mwyn gwneud eu marc.

Yn ôl heddlu Sangin, fe ddaeth ymladdwyr y Taliban ben bore Iau a meddiannu’r ardal.

Yn y cyfamser, yng ngogledd talaith Kunduz, mae adroddiadau fod heddwas wedi troi ar ei gydweithwyr tra’r oedden nhw’n cysgu, gan ladd naw ohonyn nhw.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.