Mae’r awdurdodau yn Puerto Rico yn dweud iddyn nhw rwystro mwy na 40,000 o gondomau ffug rhag dod i mewn i’r Unol Daleithiau o China.

Fe gafodd y nwyddau eu rhwystro dros gyfnod o bum niwrnod gan swyddogion y tollau (ICE), ac mae’r ymchwiliad i’r achos yn parhau.

Mewn datganiad, mae’r swyddogion yn dweud na fyddai’r condomau wedi gwarchod yr un ddynes rhag beichiogi na rhag dal clefydau rhywiol.