Mae heddwas a thri o bobol eraill wedi’u lladd wedi i ffrae deuluol mewn banc yn Wisconsin fynd allan o reolaeth.

Fe fu saethu mewn banc, mewn cwmni cyfreithwyr ac mewn bloc o fflatiau lle roedd tim o blismyn arbenigol wedi bod yn trio dal pen rheswm gyda’r dyn arfog.

Fe ddaeth y cyfan i ben tua 5 o’r gloch (amser lleol) brynhawn Mercher.

Mae dyn wedi’i ddwyn i’r ddalfa yn dilyn y digwyddiadau mewn pentrefi bychain i’r de o Wausau, gogledd Wisconsin, tua 90 milltir i’r gorllewin o Green Bay.