Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud bod yr ymosodiad brawychol ger San Steffan yn “newyddion mawr”.

Mae Adran Wladol yr Unol Daleithiau wedi cynnig cymorth i awdurdodau Prydain yn dilyn y digwyddiad.

Yn ôl NBC, dywedodd Donald Trump wrthyn nhw: “Dw i newydd gael y diweddaraf am Lundain. Mae newyddion mawr yn ymwneud â Llundain newydd ddigwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Wladol fod eu “calonnau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio”, a bod “diogelwch trigolion yr Unol Daleithiau dramor yn un o’n blaenoriaethau”.