Mae beth bynnag dri o bobol wedi’u hanafu wedi i drên o’r Eidal ddod oddi ar y cledrau yng nghanol dinas Lucerne yn y Swistir.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 2yp ddydd Mercher, wrth i’r trên o Milan i Basel gychwyn o brif orsaf Milan.

Fe drodd y pedwerydd cerbyd drosodd, ac fe gafodd ceblau trydan eu torri. Roedd 160 o bobol ar fwrdd y trên ar y pryd.

Mae heddlu Lucerne wedi cadarnhau fod yr holl deithwyr wedi’u symud oddi ar y trên yn ddiogel, a bod tri wedi derbyn triniaeth feddygol.