Mae dwsinau o bobol gyffredin wedi marw neu ar goll wedi cyrch awyr ar loches i’r digartref mewn pentre’ yng ngogledd Syria.

Mae ysgol, lle’r oedd 50 o deuluoedd yn cysgodi yn Mansoura wedi’i chwalu i’r llawr. Mae’r pentre’ rhyw 16 milltir i’r gorllewin o Raqqa, lle mae penaethiaid ISIS mewn rheolaeth.

Mae grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n lleol yn dweud nad oes modd dweud beth sydd wedi digwydd i’r un o’r hanner cant o deuluoedd.

Mae adroddiadau eraill yn dweud bod 33 o gyrff wedi’u tynnu allan o’r rwbel.