Mae daeargryn ar ynys Bali wedi achosi panig ymhlith trigolion ac ymwelwyr.

Fe gafodd yr ardal ei hysgwyd tua 7.10yb (amser lleol) gan ddaeargryn oedd yn mesur 5.5 ar y raddfa. Roedd y canolbwynt rhyw 1,4 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Banjar Pasekan, tre’ yn ne-ddwyrain Bali.

Does dim adroddiadau ar hyn o bryd o unrhyw anafiadau na difrod, ond mae yna adroddiadau am bobol  leol ac ymwelwyr yn rhedeg yn wyllt allan o’u tai, gan anelu am dir uwch.

Ond, fe ddaethon nhw i lawr yn ôl wedi iddyn nhw dderbyn negeseuon testun yn dweud nad oedd unrhyw beryg o tswnami.

Mae Indonesia yn dueddol o brofi nifer o ddaeargrynfeydd, oherwydd ei lleoliad yng ‘Nghylch Tân’ y Môr Tawel.

Ym mis Rhagfyr 2004, fe gafwyd daeargryn grymus iawn ger ynys Sumatra a achosodd tswnami a laddodd 230,000  o bobol mewn dwsinau o wledydd.