Baghdad Llun: PA
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am osod bom car yn Baghdad a laddodd 27 o bobl nos Lun.

Digwyddodd y ffrwydrad wedi seibiant byr rhag ymosodiadau ym mhrifddinas Irac.

Dywedodd y grŵp brawychol mewn datganiad ar-lein, oriau’n unig ar ôl yr ymosodiad, bod un o’u haelodau wedi parcio’r cerbyd, a oedd yn llawn ffrwydron, yn ardal fasnachol Baghdad, lle mae’r mwyafrif o bobl Shiaidd yn byw.

Yn gynharach, roedd swyddogion yn Irac wedi dweud bod ymosodiad wedi’i gynnal gan hunan-fomiwr.

Fe gododd nifer y meirw i 27 ddydd Mawrth, a chafodd 45 o bobl eu hanafu. Mae pum person yn dal ar goll.

Ym mis Chwefror roedd bom car wedi lladd o leiaf 59 o bobl yn Baghdad, ac anafu 66 o bobl eraill.