RSS

Golwg360

MwyCau 

FBI yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng Rwsia ac etholiad America

Mawrth 20, 2017 15:17 Diweddarwyd am 15:40


Donald Trump yn ymgyrchu yn ystod yr etholiad (Llun: Michael Vadon CCA 4.0) F
Mae asiantaeth yr FBI wedi cadarnhau yn gyhoeddus am y tro cyntaf eu bod yn ymchwilio i ymdrechion Rwsia i ymyrryd ag etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau y llynedd.

Cadarnhaodd cyfarwyddwr yr FBI, James Comey, heddiw y bydd yr ymchwiliad yn ystyried a fu unrhyw gydweithredu rhwng ymgyrch Donald Trump a llywodraeth Rwsia.

Wrth dystio o flaen Cyngres yr Unol Daleithiau, dywedodd James Comey ei fod wedi cael ei awdurdodi gan Adran Gyfiawnder America i ddatgelu’r ymchwiliad hwn.

Fel arfer, nid yw’r FBI yn trafod na chadarnhau pa ymchwiliadau sydd ar y gweill ganddyn nhw.

Ychwanegodd y bydd yr ymchwiliad yn ystyried natur unrhyw gysylltiadau rhwng y naill du ac a fu unrhyw gydweithredu ac unrhyw droseddau eu cyflawni.

Dywedodd James Comey nad oes gan yr FBI nag adran gyfiawnder yr UDA unrhyw wybodaeth sy’n cadarnhau honiadau Donald Trump bod y cyn-Arlywydd Barack Obama wedi rhoi gorchymyn i glustfeinio ar ei sgyrsiau ffon cyn yr etholiad.

Ac mae cyfarwyddwr Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Mike Rogers, hefyd wedi gwadu honiadau bod y sefydliad wedi gofyn i asiantaeth clustfeinio GCHQ ym Mhrydain i ysbio ar Donald Trump pan oedd yn ymgeisio i fod yn arlywydd.

Dywedodd na fyddai wedi gwneud hynny gan y byddai wedi mynd yn groes i gytundeb “Five Eyes” sef system o rannu cudd-wybodaeth rhwng yr Unol Daleithiau, Prydain, Canada, Awstralia a Seland Newydd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.