Damascus Llun: PA
Mae lluoedd Llywodraeth Syria wedi ail-feddiannu ardaloedd yn Damascus  gafodd eu cipio gan wrthryfelwyr a milwriaethwyr ddydd Sul.

Roedd y gwrthryfelwyr wedi ymosod dros nos gan ddefnyddio twneli tanddaearol.

Dyma oedd ymosodiad mwyaf difrifol y gwrthryfelwyr ers rhai blynyddoedd ac mae’n debyg bu’r garfan Islamaidd Failaq al-Rahman yn rhan o’r cyrch.

Yn ôl adroddiad ar yr orsaf deledu wladol dywedodd swyddog milwrol bod y fyddin “wedi adennill rheolaeth dros yr holl ardaloedd oedd dan reolaeth y terfysgwyr.”

Yn ôl Llysgennad Rwsia yn Damascus cafodd un o adeiladau’r llysgenhadaeth ei ddifrodi yn ystod ysgarmes.

Llwyddiant prin i’r gwrthryfelwyr oedd y cyrchoedd ddydd Sul, a ddaeth yn sgil misoedd o frwydro aflwyddiannus yn erbyn Llywodraeth Syria.