Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi rhyddhau tad y dyn sy’n cael ei amau o ymosodiad brawychol ym maes awyr Orly.

Cafodd Ziyed Ben Belgacem ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl ceisio mynd â milwr yn wystl.

Yn ôl swyddfa’r erlynydd ym Mharis, mae ei frawd a’i gefnder yn y ddalfa o hyd.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ar gorff Ziyed Ben Belgacem.

Fe fu’n rhaid cau maes awyr Orly yn dilyn y digwyddiad, ac fe achosodd gryn oedi i deithwyr, gan gynnwys cefnogwyr rygbi Cymru oedd ym Mharis ar gyfer y gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc.