Paris o'r awyr (Llun: Armin Hornung CCA3.0)
Mae dyn wedi cael ei saethu’n farw mewn maes awyr ym Mharis ar ôl ceisio cipio arfau milwr oddi arno.

Roedd e’n rhan o lu arfog Sentinel sy’n gwarchod meysydd awyr yn Ffrainc yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i beidio â mynd i faes awyr Orly am y tro, ac mae disgwyl iddo fod ynghau am ran fwya’r dydd heddiw.

Dyma’r ail ddigwyddiad o’r math yma o fewn mis, yn dilyn ymosodiad ar amgueddfa’r Louvre fis diwethaf.

Mae Ffrainc mewn cyfnod o argyfwng o hyd.

Teithwyr

Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad, ond mae miloedd o deithwyr yn wynebu oedi.

Mae teithwyr sydd wedi bod yn aros ar awyrennau am y tro bellach yn dechrau cael mynediad i’r maes awyr.

Mae 15 o deithiau wedi cael eu dargyfeirio i faes awyr Charles de Gaulle.

Fe fu’r heddlu’n ymchwilio i’r posibilrwydd fod cyswllt rhwng y digwyddiad hwn ac achos arall yn gynharach fore Sadwrn pan ddechreuodd dyn saethu at yr heddlu ger goleuadau traffig, gan anafu un ohonyn nhw yn ei hwyneb.

Mae lle i gredu bod y dyn sy’n cael ei amau ar restr o unigolion oedd dan oruchwyliaeth am eu bod nhw wedi cael eu radicaleiddio, ac mae’r ymchwiliad wedi cael ei drosglwyddo i swyddogion gwrth-frawychiaeth.

Llwyddodd y dyn i ffoi ar ôl dwyn car dynes a’i bygwth ag arf.

Mae’r heddlu’n gwadu bod ail unigolyn ynghlwm wrth y digwyddiadau, ond mae tad a brawd yr un sy’n cael ei amau yn cael eu holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.