Mae actor fu ar raglen Power Rangers wedi pledio’n euog i ladd dyn gyda chleddyf.

Gwnaeth Ricardo Medina, 38, drywanu Joshua Stutter sawl gwaith yn ei abdomen ddwy flynedd yn ôl yn eu tŷ yn Green Valley ger Los Angeles.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad gwirfoddol â chleddyf yn Uwch Lys Los Angeles, ac mae’n wynebu chwe blynedd yng ngharchar y dalaith.

Mae’n debyg bod y ddau gydletywr wedi dadlau â’i gilydd am gariad Robert Medina, a bod hynny wedi arwain at y drosedd.

Roedd Robert Medina yn actio’r Power Ranger coch yn 2002 a bu hefyd yn lleisio rhai o gymeriadau’r gyfres yn 2011 a 2012.