Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau wedi dweud ei bod yn bosib y byddai’n rhaid ymosod ar Ogledd Corea, pe bae bygythiad eu harfau niwclear yn cyrraedd lefel penodol.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Seoul, De Corea, dywedodd Rex Tillerson ei fod am ystyried “pob opsiwn” a byddai yn “ymateb yn briodol” i unrhyw fygythiadau gan y Gogledd.

Mae Llywodraethau Americanaidd blaenorol wedi ystyried defnyddio grym milwrol yn erbyn Gogledd Corea, ond mae trafod yr opsiwn mor agored yn beth anghyffredin dros ben.

Mae Rex Tillerson ar daith o wledydd Asiaidd gan gynnwys Siapan, De Corea a Tsiena, ac mae eisoes wedi ymweld â’r ffin rhwng Gogledd a De Corea.

Wrth siarad yn Tokyo dywedodd Rex Tillerson ei fod am ddatblygu strategaeth lymach i ddelio â Gogledd Corea gan ychwanegu bod “ymdrechion diplomyddol” wedi methu.