Mae newyddiadurwr gyda’r BBC wedi disgrifio’r foment y cafodd hi a thîm o wyddonwyr eu dal mewn “ffrwydrad anferth” ar ôl i losg fynydd ffrwydro.

Dywedodd Rebecca Morelle, gohebydd gwyddoniaeth ryngwladol y gorfforaeth, fod ei chriw wedi cael eu bwrw gan “gerrig berwedig a stêm” ar fynydd Etna yn Sisili.

Fe wnaeth y criw darlledu a gwyddonwyr ddianc â dim ond ambell i gwt a chlais, gydag wyth person wedi’i anafu.

“Nifer wedi’u hanafu – rhai anafiadau i’r pen, llosgiadau, briwiau a chleisiau,” meddai Rebecca Morelle ar Twitter.

“Dywedodd y fylcanolegwr mai dyna oedd y profiad mwyaf peryglus iddo gael yn ei yrfa 30 o flynyddoedd.

“Gallai fod wedi bod yn waeth – mae ffrwydradau fel hyn wedi lladd – ond mae’n debyg mai mân anafiadau sydd am nawr.

“Mae tîm y BBC i gyd yn iawn – ambell i friw/clais a llosgiadau. Er wedi cael ysgytiad – roedd yn ofnadwy o frawychus.”