Mae yna achos o saethu wedi bod mewn ysgol uwchradd yn nhre’ Grasse yn ne Ffrainc – ac mae disgybl 17 oed wedi’i arestio am fod ag arfau yn ei feddiant.

Fe gafodd pennaeth yr ysgol ei saethu, ynghyd â dau ddisgybl. Mae pump o bobol eraill yn derbyn triniaeth at effeithiau sioc wedi’r digwyddiad yn Ysgol Alexis de Tocqueville.

Fe ddaw’r achos hwn yn dynn ar sodlau’r ymosodiadau brawychol ar ddinas Paris yn 2015, a’r ymosodiad wedyn ar Nice y llynedd. Ond does dim lle i gredu bod gan y digwyddiad diweddara’ hwn ddim cysylltiad â brawychiaeth.

Mae Grasse rhyw 40 cilomedr (25 milltir) o Nice.