Mae Cymraes o Sir Ddinbych wedi marw yn Jamaica wedi iddi gwympo o fast bad hwylio yn Portland.
Roedd Bethany Smith, 18, o Glyndyfrdwy yn gweithio fel decmon ar y Germania Nova pan syrthiodd ddydd Mawrth a bu farw yn yr ysbyty o ganlyniad i’w hanafiadau.
Ymunodd â chriw’r llong dros flwyddyn yn ôl, wedi cyfnod o hwylio o amgylch y byd a’i theulu.
Bu’n ysgrifennu blog am ei hanturiaethau o’r enw ‘Flutingtootingbethany’ gyda’r moto “byw bywyd yn y presennol, ’dych chi byth yn gwybod beth ddaw yfory.”
Dywedodd, Niall Robinson, oedd yn llogi’r Germania Nova, “rydym wedi hysbysu’r perthnasau ac rydym yn cydymdeimlo â’r teulu a chyd aelodau’r criw yn ystod y cyfnod anodd yma.”
Mae ymgyrch ar y we wedi llwyddo codi £9,000 o bunnau er mwyn lleddfu’r baich ariannol o gostau’r angladd i’r teulu.