Dadl deledu rhwng Geert Wilders, de, a Mark Rutte (Llun: PA)
Mae pobol yn yr Iseldiroedd wedi dechrau pleidleisio yn etholiadau seneddol y wlad.

Fe allai’r etholiadau hyn gael eu defnyddio i ddarogan pa mor boblogaidd fydd pleidiau asgell dde yn etholiadau Ffrainc a’r Almaen yn ddiweddarach eleni.

Plaid asgell dde y VVD oedd ar y blaen yn ôl y polau piniwn ar drothwy’r etholiadau, a phlaid wrth-Islamaidd Geert Wilders, Party for Freedom yn ail agos.

Yn ôl arweinydd y VVD, Mark Rutte, mae gan Iseldirwyr ddewis rhwng cysondeb ac anhrefn.

Mae’n ei bortreadu ei hun fel arweinydd all adfywio economi’r wlad, tra ei fod yn dweud bod Geert Wilders yn radical asgell dde eithafol na fyddai’n gallu gwneud penderfyniadau anodd.

Dim cydweithio 

Mae’r holl bleidiau mawr yn y wlad eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n clymbleidio â phlaid Geert Wilders, er ei bod hi’n debygol iawn mai clymblaid fydd y canlyniad yn y pen draw.

Prif bolisi ei blaid yw dad-Islameiddio’r wlad, gan gau’r ffiniau a mosgiau, a gwahardd y Koran.

Mae e hefyd yn awyddus i dynnu’r Iseldiroedd allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Argyfwng

Ar drothwy’r etholiadau, fe fu argyfwng diplomyddol rhwng llywodraethau’r Iseldiroedd a Thwrci ar ôl i’r Iseldiroedd wrthod yr hawl i ddau weinidog o lywodraeth Twrci annerch rali am refferendwm ar ddiwygio cyfansoddiad y wlad.

Mae arweinydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan yn awyddus i sicrhau mwy o rym drwy’r diwygiadau.

Mae’r polau ar agor tan naw o’r gloch i’r 12.9 miliwn o bleidleiswyr sy’n gymwys i bleidleisio.