Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Fe allai 14 miliwn o Americanwyr golli eu hyswiriant iechyd o dan gynlluniau i ddiwygio system gofal iechyd yr Unol Daleithiau, meddai arbenigwyr.

Fe allai’r ffigwr godi i 24 miliwn erbyn 2026, meddai’r Gyngres.

Mae adroddiad gan y Swyddfa Gyllid Cyngresol yn ergyd i gynlluniau’r Gweriniaethwyr i ddiwygio Obamacare a gafodd ei gyflwyno yn 2010.

Mae’r cynlluniau eisoes wedi cael eu beirniadu gan aelodau o’r ddwy blaid a nifer o arbenigwyr meddygol.

Mae’r Arlywydd Donald Trump a’r Gweriniaethwyr wedi mynnu bod y marchnadoedd yswiriant a gafodd eu sefydlu fel rhan o Obamacare yn “drychinebus”.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Tom Price bod yr adroddiad “yn anghywir” ac nad oedd yn cynnwys effaith deddfwriaeth ychwanegol gan y Gweriniaethwyr a newidiadau eraill sydd ar y gweill.