Jerwsalem
Mae dyn Palestinaidd wedi cael ei saethu’n farw ar ôl i ddau blismon gael eu trywanu yn Jerwsalem, meddai’r heddlu.

Roedd y dyn wedi ymosod ar y ddau swyddog yn yr Hen Ddinas yn gynnar fore Llun, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Ychwanegodd bod un o’r plismyn wedi ceisio atal yr ymosodwr ac wedi ei saethu.

Cafodd ei adnabod fel dyn Arabaidd 26 oed o ddwyrain Jerwsalem.

Ni chafodd y ddau blismon eu hanafu’n ddifrifol.

Mae Palestiniaid wedi lladd 41 o bobl Israelaidd a dau ymwelydd o America mewn cyfres o ymosodiadau ers mis Medi 2015.

Mae lluoedd Israel wedi lladd 238 o Balestiniaid yn ystod yr un cyfnod, gan eu hadnabod fel “ymosodwyr”.

Dywed y Palestiniaid bod yr ymosodiadau yn deillio o ddicter yn dilyn degawdau o reolaeth gan yr Israeliaid. Ond mae Israel yn honni bod y trais yn rhan o ymgyrch gan y Palestiniaid i annog gwrthdaro.