Mae o leiaf 40 o bobol wedi cael eu lladd mewn dau ffrwydrad ym mhrifddinas Syria, Damascus.

Digwyddodd y ffrwydradau ger safleoedd crefyddol Shiaidd, yn ôl adroddiadau yn y wlad.

Mae 120 o bobol wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiadau oedd wedi targedu ymwelwyr â safleoedd crefyddol.

Mae disgwyl rhagor o farwolaethau dros y dyddiau nesaf.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond mae’r ymosodiad yn debyg i un gan Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – y llynedd.