Mae 35 o bobol wedi marw yn dilyn tirlithriad yn Ethiopia.

Mae rhan fwya’r meirw ar gyrion y brifddinas Addis Ababa’n fenywod a phlant, yn ôl yr awdurdodau.

Mae disgwyl i nifer y meirw godi yn ystod y dydd.

Mae lle i gredu bod hyd at 150 o bobol yn yr ardal pan ddigwyddodd y tirlithriad nos Sadwrn, ac mai sbwriel oedd wedi ei achosi.

Mae hyd at 500 o weithwyr yn gweithio ar y safle bob dydd.

Mae Ethiopia mewn argyfwng ers mis Hydref yn dilyn misoedd o brotestiadau gwleidyddol.