Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan (Llun: Randam CCA2.0)
Mae’r ffrae ddiplomyddol rhwng Twrci a’r Iseldiroedd wedi gwaethygu ar ôl i un o weinidogion llywodraeth Twrci gael ei orfodi i adael yr Iseldiroedd fel “persona non grata”.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi galw’r Iseldirwyr yn “weddillion y Natsïaid”.

Mae lle i gredu bod swyddogion o Dwrci’n bwriadu ymgyrchu yn yr Iseldiroedd o blaid refferendwm.

Arweiniodd y ffrae at wrthod mynediad i Fatma Betul Sayan Kaya ar ôl iddi gyrraedd yr Iseldiroedd o’r Almaen.

Cafodd ei chludo yn ôl i’r Almaen gan heddlu arfog.

Dywedodd Fatma Betul Sayan Kaya wedi’r digwyddiad fod “rhaid i’r byd i gyd weithredu yn erbyn yr arfer ffasgaidd”.

Mae’r Iseldiroedd wedi galw sylwadau Recep Tayyip Erdogan yn “wallgof”.

Fe fu gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr o blaid Twrci dros nos yn Rotterdam.

Ddydd Sadwrn, gwrthododd yr Iseldiroedd roi’r hawl i Weinidog Tramor Twrci, Mevlut Cavusoglu rhag glanio yn y wlad, ac fe gafodd Llysgenhadaeth yr Iseldiroedd yn Nhwrci ei chau.