Mae pennaeth dyngarol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod y byd yn wynebu’r argyfwng dyngarol mwyaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Mae mwy nag 20 miliwn o bobol mewn pedair gwlad yn wynebu newyn, meddai Stephen O’Brien.

“Heb gydweithio byd-eang,” meddai, “bydd pobol yn llwgu i farwolaeth, yn syml iawn.”

Galwodd am roi arian ychwanegol i’r Yemen, De Sudan, Somalia a gogledd-ddwyrain Nigeria ar unwaith “er mwyn osgoi trychineb”.

Dywedodd fod angen rhoi 4.4 biliwn o ddoleri (£3.6 biliwn) i’r gwledydd hynny cyn mis Gorffennaf.

Yn ôl diffiniad y Cenhedloedd Unedig, mae newyn yn digwydd pan fo mwy na 30% o blant o dan bump oed yn dioddef o ddiffyg maeth a phan fo cyfraddau marwolaeth yn ddwy farwolaeth neu fwy am bob 10,000 o bobol bob dydd.

Yr Yemen

Yn Yr Yemen mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf, meddai Stephen O’Brien, ac mae angen cymorth dyngarol ar ddau draean o’r boblogaeth, neu 18.8 miliwn o bobol.

Mae mwy na 48,000 o bobol wedi ffoi o’r wlad yn ystod y deufis diwethaf, meddai, gan ychwanegu fod angen 2.1 biliwn o ddoleri (£1.7 biliwn) ar y wlad er mwyn datrys y sefyllfa.

De Sudan

Yn Ne Sudan, meddai, “mae’r sefyllfa’n waeth nag erioed o’r blaen”.

Mae angen cymorth dyngarol ar 7.5 miliwn o bobol, sydd 1.4 miliwn yn fwy na’r llynedd.

Mae 3.4 miliwn o bobol wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd rhyfel, ac mae 200,000 o bobol wedi ffoi ers mis Ionawr.

Somalia

Mae angen cymorth dyngarol ar 6.2 miliwn o bobol yn Somalia, sy’n cyfateb i fwy na hanner y boblogaeth.

Mae 2.9 miliwn o bobol mewn perygl o ddioddef o newyn ac mae angen cymorth ar unwaith “er mwyn achub neu gynnal eu bywydau”, meddai Stephen O’Brien.

Fe fydd bron i un miliwn o blant dan bump oed yn wynebu diffyg maeth eleni, meddai.

Gogledd-ddwyrain Nigeria

Mae mwy nag 20,000 o bobol wedi cael eu lladd gan Boko Haram yng ngogledd-ddwyrain Nigeria dros y saith mlynedd diwethaf, ac mae 2.6 miliwn o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi.

Mae diffyg maeth yn broblem sylweddol yn yr ardal, lle mae oedolion yn rhy wan i gerdded a holl blant rhai cymunedau wedi marw.