Mae’r byd yn wynebu’r argyfwng dyngarol gwaethaf ers 1945, gyda dros 20 miliwn o bobol mewn pedair gwlad yn wynebu newyn.

Dyna yw rhybudd pennaeth dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Stephen O’Brien.

Mae’n galw am £3.6 biliwn ar unwaith i Yemen, De Sudan, Somalia a gogledd-ddwyrain Nigeria er mwyn osgoi trychineb.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn diffinio newyn fel sefyllfa pan fo dros 30% o blant o dan 5 oed yn dioddef yn ddifrifol o ddiffyg maeth a phan fo cyfraddau marwolaeth yn ddau neu fwy o farwolaethau i bob 10,000 o bobol bob dydd.

“Rydym yn wynebu’r argyfwng dyngarol mwyaf ers creu’r Cenhedloedd Unedig,” meddai Stephen O’Brien.

Dywedodd fod dau draean poblogaeth Yemen o 18.8 miliwn angen help, lle mae rhyfel cartref yn dinistrio gwlad dlotaf y byd Arabaidd, a lle mae 48,000 o bobol wedi ffoi oddiyno yn y deufis diwethaf.