Mae ymosodiad gan ddau hunanfomiwr ar briodas mewn pentre’ i’r gogledd o Baghdad yn Irac, wedi lladd beth bynnag 20 o bobol.

Fe gerddodd yr hunanfomwyr i mewn i’r parti priodas yn al-Hajaj, ger dinas Tikrit, nos Fercher. Fe gafodd 13 o bobol eu hanafu gan y ffrwydriadau.

Y gred ydi mai grwp y Wladwriaeth Islamaidd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau, er nad oes yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb.