Mae heddlu yng ngogledd India wedi lladd dyn oedd yn cael ei amau o gynllwynio i fomio trên yn llawn teithiwyr yr wythnos ddiwetha’. Fe gafodd wyth o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yr wythnos ddiwetha’.

Fe fu swyddogion gwrth-frawychiaeth mewn brwydr gyda’r dyn am 11 awr, wedi iddyn nhw ddod o hyd iddo yng nghartre’ clerigwr Mwslimaidd yn ninas Lucknow.

Yn ol yr awdurdodau, roedd y dyn – sy’n cael ei adnabod fel ‘Saifullah’ – ar restr o ddynion hysbys mewn cysylltiad â’r ffrwydriad ar dren ger Bhopal yn nhalaith Madhya Pradesh ddydd Mawrth.

Mae pedwar o ddynion eraill hefyd wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, yn ogystal â dau ddyn arall yn ninas Kanpur, tua 50 milltir i’r de-orllewin o Lucknow.