Llwybr sgio yn Tignes, yr yr Alpau yn Ffrainc (Llun: PA/Luca Bruno)
Mae cwymp eira arall wedi bod yng nghanolfan sgïo Tignes ond mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi’u lladd yn y digwyddiad, meddai’r awdurdodau yn Ffrainc.

Dywed timau achub bod ymdrech i chwilio am bobl a allai fod yn gaeth dan yr eira yn ardal Savoie yn ne orllewin Ffrainc bellach wedi dod i ben.

Fe ddigwyddodd y cwymp eira am 9.50yb (amser lleol).

Roedd y cyfryngau yn Ffrainc wedi adrodd bod nifer o sgiwyr wedi’u caethiwo gan y cwymp eira ond nid oes cadarnhad bod unrhyw un wedi’u hanafu.

Bu farw pedwar eirafyrddiwr fis diwethaf yn Tignes wedi cwymp eira ger y ganolfan sgïo.